Clwb aml-sgil yw Sgiliau Bach sy’n cyflwyno plant i chwaraeon amrywiol fel pêl-droed, rygbi, tenis ac athletau yn ogystal â datblygu patrymau symud, cydbwyso, taflu, dal a chydlynu.

Mae’r rhaglen llawn hwyl wedi ei greu’n arbennig gan ddefnyddio egwyddorion sylfaenol campau gwahanol i gynnig clwb unigryw.

Mae hwyl yn rhan anatod o’r sesiynau awr o amser. Mae croeso i rieni aros i wylio, cymeryd rhan neu gadael a chasglu eu plant ar ddiwedd y sesiwn.

Dyma’r Clwb perffaith i baratoi y plant ifanc cyn ymuno â chlwb chwaraeon penodol pan fyddant yn barod i wneud hynny.
Mae’n syml …….dysgu sgiliau a chael hwyl.